Croeso i Glwb Golff Ynys Môn – Rhosneigr, yr unig wir lincs ar ynys hardd Môn. Mae’n gwrs diddorol sy’n gallu bod yn heriol ac mae’n addas i olffwyr o bob gallu. Gyda safon 68 o’r tïau melyn a safon 70 o’r gwynion a’r cochion, ymysg twyni Rhosneigr mae digon i gynnal diddordeb golffwyr ac ymwelwyr.
Mae cyfeillgarwch a chroeso cynnes yn nodweddu ein clwb. Mae gennym adran gadarn ar gyfer y rhai sydd dros 55 oed gyda chalendr yn llawn gweithgareddau. Rydym yn cynnig gwerth rhagorol am arian ac mae cynigion arbennig ar gael i aelodau newydd..
Mae Clwb Golff Ynys Môn yn awyddus i annog pawb i chwarae golff ac rydym yn croesawu aelodau newydd.
Mae Rhosneigr yn bentref gwyliau poblogaidd ac mae cynigion arbennig ar gael i chwarae golff yn yr haf. Mae prisiau wythnosol yn siŵr o apelio ac mae pris arbennig ar gyfer Gorffennaf ac Awst. Hefyd mae gennym nifer o Gystadlaethau Agored ar hyd y flwyddyn.
Felly, os ydych yn ystyried chwarae golff yn Ynys Môn, dewch draw i cyfleusterau arbennig ein clwb.
Porwch drwy ein gwefan i gael golwg ar y cwrs a dysgu mwy am yr holl gynigion arbennig sydd ar gael.