Llety gyda phrisiau arbennig i chwarae golff yng Nghlwb Golff Ynys Môn
Gwesty’r Bulkeley, Biwmares
Codwyd yr adeilad Sioraidd arbennig hwn yn 1832. Bellach mae gan y gwesty 43 o ystafelloedd gwely en suite, bwyty arbennig, bar a lolfa. Mae lifft ar gyfer pob ystafell wely a chyfleusterau ar gyfer gwesteion anabl.
I bobl fusnes, mae’r gwesty’n cynnig gyda lle i 2 i 150 o bobl. Gellir cynnal priodasau sifil yno a gall y gwesty wneud yr holl drefniadau angenrheidiol ar gyfer eich diwrnod arbennig. Mae Gwesty’r Bulkeley’n cynnig ‘Blas ar Gymru’ ac mae'n ymfalchïo yn y cynnyrch lleol creadigol y mae'n ei ddefnyddio yn ei fwytai.
Ffoniwch +44 (0) 1248 810 415 neu e-bostiwch This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.
Gwesty Cymyran, Caergybi
Mae Gwesty Cymyran ar arfordir gorllewinol Môn ac yn lle delfrydol i aros ar yr Ynys a gweld popeth sydd ganddi i’w gynnig. Mae’r gwesty chwaethus a modern hwn yn lle delfrydol i unrhyw un sydd eisiau ymlacio, gwyliau gweithgareddau, neu aros noson ar y ffordd i Iwerddon. Gall gwesteion fwynhau’r wlad gan mai dim ond ychydig funudau i ffwrdd mae traethau tawel a glân, Llwybr Arfordir Môn a gwarchodfeydd natur RSPB. Beth am fanteisio ar ein dewis o wyliau gweithgareddau? Mae pecynnau golff, marchogaeth a cherdded ar gael – holwch am wybodaeth.
Ffoniwch +44(1407)742858 neu e-bostiwch This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.